Fe fydd Aelodau Seneddol yn dechrau ar y gwaith o graffu ar Fesur Drafft Cymru heddiw cyn iddo ddod yn ddeddf.
Fe allai’r mesur drafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, roi mwy o bwerau benthyg a threthu i’r Cynulliad.
Byddai’n cynnwys rheolaeth dros y dreth stamp, tir a thirlenwi yn ogystal â phwerau benthyg arian.
Bydd aelodau’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan yn dechrau casglu tystiolaeth ar y mesur gan economegwyr, academyddion ac arbenigwyr.
Fe allai arwain at gynnal refferendwm am roi’r hawl i Lywodraeth Cymru amrywio treth incwm yn y dyfodol.
Y gobaith yw y bydd yn dod yn ddeddf cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2015.