Mae buddion economaidd ffracio wedi cael eu “chwyddo”, meddai’r asiantaeth amgylcheddol WWF Cymru.
Cyhoeddodd David Cameron ddoe y byddai awdurdodau lleol yn Lloegr yn derbyn 100% o’r cyfraddau busnes am gymeradwyo prosiectau i dyllu am nwy siâl – yn hytrach na’r 50% maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd.
Ond mae Anne Meikle o WWF Cymru yn pryderu y bydd y ffocws rŵan yn cael ei roi ar brosiectau ffracio yn hytrach nac ar ddatblygu ffyrdd newydd o greu ynni adnewyddadwy.
‘Sut allwch chi gyfiawnhau ffracio?’
“Ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru yn ceisio lleihau nwyon tŷ gwydr o 40% erbyn 2020, mae datganiad y Prif Weinidog yn peri pryder mawr,” meddai Anne Meikle.
“Gyda’r angen i leihau nwyon tŷ gwydr Cymru a datgarboneiddio system ynni Prydain – sut allwch chi gyfiawnhau ffracio?”
“Rydym yn gobeithio y bydd brwdfrydedd Llywodraeth Prydain dros nwy siâl yn cael ei baru hefo’r un parodrwydd i ddatgarboneiddio system ynni Prydain. Fel arall, fe fydd hygrededd diwydiannau carbon isel Prydain yn gostwng.
“Mae’n rhaid i ni gofio hefyd fod tyllu am nwy siâl yn troi’r ffocws i ffwrdd o’r ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni a datblygu ffordd newydd o greu ynni adnewyddadwy.”