Matt Johnson
Mae’r cyflwynydd teledu o Gaerffili, Matt Johnson, wedi datgelu y bu’n agos at ladd ei hun wedi i’w berthynas a ‘r gyflwynwraig Alex Jones ddod i ben.

Bu Matt Johnson yn siarad gyda’r Daily Mail a dywedodd ei fod yn aros ar ben ei hun yn fflat ei rieni yn Sbaen dros gyfnod y Nadolig yn 2009 pan fu bron iddo neidio oddi ar y balconi ar y pedwerydd llawr.

Meddai Matt Johnson ei fod yn teimlo ar ei isaf ar y pryd wedi iddo ddioddef damwain ddifrifol ychydig o flynyddoedd yn gynharach yn ogystal â diwedd ei berthynas gyda chyflwynydd The One Show.

Dywedodd Matt Johnson: “Roeddwn i mor agos at roi terfyn ar y cyfan ond yna digwyddodd rhywbeth rhyfedd.

“Chwythodd awel oer ar draws fy wyneb ac fe wnes i gamu nôl o’r ymyl yn reddfol. Roedd fy mhen yn teimlo’n gliriach a chododd y pwysau oeddwn i wedi bod yn ei gario. Ar y foment honno penderfynais nad oeddwn eisiau marw, bod bywyd yn werth ei fyw wedi’r cyfan.”

Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, meddai cyflwynydd Hwb ar S4C ei fod wedi cael yr hyder i siarad yn fwy agored am ei broblemau.

Ychwanegodd Matt Johnson: “Wrth edrych yn ôl, dylwn i fod wedi mynd at elusen iechyd meddwl fel Mind, a allai fod wedi rhoi cwnsela arbenigol i mi.”