Yr ardal ar lan y Mor Du (soerfm CCA 3.0)
Mae pryder wedi codi ynglŷn â diogelwch yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi, Rwsia, ar ôl i chwech o bobol gael eu saethu’n farw mewn ardal gyfagos.

Daethpwyd o hyd i’r chwech dyn yn farw mewn pedwar car oedd wedi’u gadael y tu allan i Pyatigorsk yn Ne Rwsia, ddim yn bell o Sochi ble bydd y Gemau’n cael eu cynnal ym mis Chwefror eleni.

Mae’r ddau le’n at fynyddoedd y Cawcasws, ble mae gwrthdaro rhwng grwpiau Moslemaidd a lluoedd Rwsia yn digwydd ers amser.

Dim gwybodaeth pam

Cafwyd hyd i ffrwydradau o dan dri o’r ceir, ond dim ond un o’r rheiny a ffrwydrodd, gan anafu neb – roedd pob un o’r chwech a fu farw wedi cael ei saethu.

Dywedodd Vladimir Markin, llefarydd ar ran prif wasanaeth ymchwilio Rwsia, fod swyddogion o’r Gwasanaeth Diogelwch Ffederal wedi ymuno yn yr ymchwiliad, ond nad oedden nhw’n gwybod y cymhelliad eto.

Mae tri o’r rheiny a gafodd eu saethu wedi’u henwi, gyda dau ohonynt yn yrwyr tacsi a’r trydydd yn adeiladwr dodrefn, a phob un ohonynt yn lleol.

Dyma’r digwyddiad diweddaraf o drais yn Rwsia, ar ôl i ddau o hunan-fomwyr ladd 34 o bobl mewn gorsaf drenau yn y ddinas ddeheuol Volgograd fis diwethaf.