Elin Jones - wedi sgrifennu llythyr
Mae Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru’n dweud nad oes bwriad “ar hyn o bryd” i gau na thorri gwasanaethau ambiwlans yng ngorsaf Cei Newydd, Ceredigion.
Roedden nhw’n ymateb i bryderon ymhlith gwleidyddion lleol am ddyfodol yr orsaf sy’n cynnig gwasanaeth 24 awr/
Er bod datganiadau gan Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yn dweud na fydden nhw’n torri ar wasanaethau, mae’r Aelod Cynulliad, Elin Jones, wedi sgrifennu at Brif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth yn gofyn am gael gwybod beth sy’n digwydd.
“Mae pawb i ryw raddau yn y tywyllwch,” medd llefarydd o swyddfa Elin Jones, sydd hefyd yn llefarydd iechyd ar ran Plaid Cymru.
Adolygu
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth y byddan nhw’n adolygu amserlenni’r criwiau ambiwlans dros y misoedd nesaf.
“Fe fydd hyn yn caniatáu i ni allu cael gwell darpariaeth o’n hadnoddau ac y byddwn ni’n gallu ymateb i’r cyfnodau lle mae yna fwy o alw,” meddai.
Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru lansio cynllun moderneiddio yn 2011 – Gweithio Ynghyd am Lwyddiant – gyda’r bwriad o ddatblygu adeiladau’r ymddiriedolaeth.
“Ond ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gau gorsaf Cei Newydd na chwaith i newid y ddarpariaeth yn yr ardal,” meddai’r ymddiriedolaeth.
“Wrth gwrs byddwn yn sicrhau fod cymunedau yn cael eu hysbysu’n llawn pe bai yna unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth.”
‘Angen gorsafoedd gwledig’
Yn ei llythyr, dywedodd Elin Jones: “Mae dirfawr angen gorsafoedd ambiwlans mewn ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau fod yr amseroedd targed yr un mor gyraeddadwy ac yr ydynt mewn ardaloedd trefol.
“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eisoes yn cael trafferth cyrraedd yr amseroedd targed, ac mae angen sicrhau nad oes unrhyw fygythiad i’r gwasanaeth yn y Gorllewin.”