Mark Carney
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi y bydd cyfraddau llog yn aros ar eu lefel isaf o 0.5% unwaith eto.

Mae’r cyfraddau wedi aros yn 0.5% ers mis Mawrth 2009.

Mae Banc Lloegr wedi rhoi addewid na fydd yn ystyried cynyddu cyfraddau llog nes bod lefel diweithdra yn gostwng i 7% fel rhan o ymdrechion i helpu twf yr economi.

Ond mae economegwyr yn darogan y bydd llywodraethwr y Banc, Mark Carney, yn gostwng y targed diweithdra er mwyn ystyried cynnydd yn y gost o fenthyca mor fuan â mis nesaf.

Mae lefelau diweithdra wedi bod yn gostwng yn gynt na’r disgwyl – i 7.4% ym mis Hydref – gan olygu y gallai’r targed o 7% gael ei gyrraedd yn gynt na’r disgwyl.