Mae’r nifer o gleifion sydd wedi gorfod aros dros 36 wythnos am driniaeth mewn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n fwy nag erioed, yn ôl ffigyrau a gafodd eu rhyddhau heddiw.
Roedd 13,269 o gleifion wedi gorfod aros yn hirach na’r 36 wythnos am eu triniaeth erbyn diwedd mis Tachwedd y llynedd – er bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gael 100% o gleifion wedi’u trin yn yr amser hwnnw.
Dim ond 96.8% o’r 414,771 o gleifion oedd dal yn disgwyl am driniaeth ar ddiwedd y mis hwnnw oedd wedi bod yn disgwyl llai na’r cyfnod o 36 wythnos.
Roedd y Llywodraeth hefyd wedi gosod targed o 95% o gleifion i aros llai na 26 wythnos am driniaeth, ond fe fethwyd y targed hwnnw hefyd gydag ond 88.2% yn cael eu trin yn yr amser hwnnw.
‘Gwarthus’
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, roedd y record honno’n un annerbyniol.
“Ni ddylai unrhyw un orfod aros mwy na 36 wythnos cyn dechrau’u triniaeth,” meddai Kirsty Williams.
“Ond yma yng Nghymru, o dan Lywodraeth Lafur sy’n methu, mae dros 13,000 o bobl wedi gorfod aros yn hirach na hynny. Mae’n warthus.
“Mae aros i ddechrau triniaeth yn gyfnod gofidus i unrhyw glaf. Dylai lleihau’r amseroedd aros yma fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
“Boed hi’n ofal cancr annigonol, amser ymateb ambiwlans gwael neu amseroedd aros hirfaith, mae’r Llywodraeth yn methu a chynnig y gwasanaeth iechyd sydd ei angen ar gleifion yng Nghymru, ac y maen nhw’n ei haeddu.
“Mae staff y GIG yn gweithio’n hynod o galed i helpu cleifion, ond mae eu hymdrechion nhw’n cael eu rhwystro gan y Llywodraeth.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigurau yn siomedig ond bod nifer y rhai sy’n aros yn hirach na 36 wythnos yn gostwng, ac mae mwyafrif y cleifion yn parhau i aros llai na 26 wythnos am driniaeth.
“Er ei bod yn siomedig nodi’r cynnydd yn nifer y cleifion sy’n aros dros 36 wythnos y mis hwn, mae’r GIG yng Nghymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn brydlon, ac yn ôl blaenoriaeth ar gyfer y rhai sydd wedi eu trefnu o flaen llaw a gofal brys.”
Gellir gweld yr adroddiad ystadegol drwy ddilyn y linc yma.