Casey Breese
Mae clwb pêl-droed Caersws wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiad yn ymwneud a’r ddedf iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth bachgen 12 oed ym mis Gorffennaf 2011.
Fe ddisgynnodd pyst gol ar ben Casey Breese tra’r oedd o’n chwarae pêl-droed ar gae’r clwb, gyda ffrindiau.
Fe aed a’r bachgen mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Amwythig, ond bu farw o’i anafiadau.
Fe ymddangosodd cynrychiolwyr o’r clwb pêl-droed ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw i gyflwyno eu ple.
Clywodd y llys bod y clwb wedi ei gyhuddo o fethu a sicrhau diogelwch neu gymryd camau i sicrhau bod pyst gol a gafodd eu darparu ar gyfer y clwb yn ddiogel ac nad oedd perygl o achosi anaf.
Mae disgwyl i’r achos llys ddechrau ar 22 Gorffennaf. Mae’r achos yn cael ei ddwyn gan Gyngor Sir Powys.