Hofrennydd arall ar safle'r ddamwain
Mae disgwyl i awdurdodau symud cyrff pedwar aelod o Lu Awyr America a gafodd eu lladd mewn damwain hofrennydd yn ystod sesiwn ymarfer  ar arfordir gogleddol Norfolk.

Bu farw’r Capteiniaid Christopher S Stover a Sean M Ruane, y Sarsiant Technegol Dale E Matthews a  Sarsiant Staff Afton M Ponce pan gwympodd eu hofrennydd Pave Hawk i’r ddaear mewn gwarchodfa natur  yn Cley-next-the-Sea nos Fawrth.

Dywedodd Llu Awyr Lakenheath, ble mae Llu Awyr yr UDA yn ymarfer, fod y Capteiniaid Stover a Ruane yn beilotiaid, tra bod y Sarsiant Technegol Matthews a’r Sarsiant Staff Ponce yn chwarae rhan awyrwyr campau arbennig.