Jeff Cuthbert
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa gwerth £10miliwn dros ddwy flynedd er mwyn mynd i’r afael a thlodi ar draws Cymru.
Bydd arian y cynllun, sydd yn rhedeg nes diwedd 2015, yn mynd tuag at brosiectau cymunedol y mae’r Llywodraeth yn gobeithio a fydd yn medru gwireddu eu huchelgais o leihau tlodi ar draws y wlad.
Ond bydd ceisiadau am grantiau hefyd yn cael eu derbyn ar gyfer cynlluniau a fydd yn ailgyflwyno gwasanaethau cymunedol, neu’n eu hatal rhag cael eu colli.
£500,000 fydd yr uchafswm o arian fydd ar gael ar gyfer un prosiect, gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddol, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, yn cael eu gwahodd i wneud cais am y grantiau cyfalaf, er mwyn gwella cyfleusterau cymunedol ar gyfer y bobl fwyaf anghenus yn eu hardaloedd.
Bydd yn rhaid i’r rheiny a fydd yn gwneud cais am grant brofi y bydd eu prosiect nhw yn atal tlodi ac yn helpu i liniaru ei effeithiau.
Arwain at waith
Yn ôl y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert, bwriad y gronfa yn y pen draw fydd gwella cyfleoedd pobl mewn ardaloedd tlotach yng Nghymru.
“Mae’r gronfa newydd hon yn agored i grwpiau cymunedol a gwirfoddol sydd am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn eu hardaloedd,” meddai Jeff Cuthbert wrth lansio’r gronfa.
“Rydyn ni am ganolbwyntio ar wella cyfleoedd pobl, mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi tlodi ac â’r effeithiau mae’n eu cael.
“Hanfod y gwaith hwnnw fydd helpu pobl i fyw bywydau iachach a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd fel y bo mwy o obaith iddyn nhw ddod o hyd i waith.
“Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl ar adeg pan fo’r hinsawdd ariannol yn un anodd iawn.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth gallwn ni i helpu pobl i oresgyn eu hanawsterau a gwella’u cyfleoedd bywyd, a hynny yn y cymunedau lle maen nhw’n byw.”
Ategwyd y gefnogaeth i’r gronfa gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething, a ddywedodd eu bod yn chwilio “am geisiadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, sy’n cael eu datblygu ar y cyd â’r bobl sy’n byw yn yr ardal, ac ar y cyd â’r sectorau cyhoeddus a phreifat”.