Fe fydd ffermwyr yn cael cosb am fod yn hwyr yn profi gwartheg am TB, meddai Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.
Fel rhan o’r rhaglen i ddileu TB, bydd yn ofynnol i’r rhai sy’n cadw gwartheg yng Nghymru gynnal profion ar eu gwartheg bob 12 mis.
Mae’r Gweinidog wedi cyflwyno cosb o 1% o’r Taliadau Amaethyddol Cyffredin (TAC) ar ffermwyr sydd rhwng un a thrideg diwrnod yn hwyr â’u profion TB.
Mae’r gosb hon yn ychwanegol at y gosb o 3% o’r TAC sydd eisoes yn cael ei roi i ffermwyr sydd rhwng 3 a 12 mis yn hwyr yn cynnal eu profion TB. Bydd y gosb yn cynyddu i 5% o’u taliad os ydyn nhw dros 12 mis yn hwyr.
‘Angen cynnal profion rheolaidd’
Dywedodd Alun Davies: “Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar TB mewn gwartheg o Gymru, ac elfen bwysig o’n rhaglen ddileu ni yw cynnal profion rheolaidd er mwyn dod o hyd i’r clefyd yn gyflym.
“Mae mwyafrif llethol ffermwyr Cymru’n yn cynnal eu profion mewn da bryd – ond mae’r lleiafrif bach sydd ddim yn cydymffurfio yn tanseilio ein rhaglen ddileu TB ac yn cynyddu’r risg o achosion. Dyna pam rydw i wedi cyflwyno’r gosb ychwanegol hon ar gyfer pob prawf TB hwyr ar ôl 1 Ionawr 2014.”