Y stormydd yn Aberystwyth ar ddechrau'r wytnnos
Mae angen i Lywodraeth San Steffan roi cymorth ariannol ychwanegol i Gymru i geisio mynd i’r afael â’r costau o atgyweirio’r dinistr a achoswyd gan stormydd dros yr wythnos diwethaf, yn ôl nifer o Arglwyddi Cymreig.

Mewn trafodaeth frys yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr fe alwodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, ar Lywodraeth San Steffan i gamu i’r adwy oherwydd nad oedd gan awdurdodau lleol yr arian ar gyfer yr holl waith atgyweirio.

Cafodd ei alwad ei ategu gan yr Arglwydd Elystan Morgan, cyn-Aelod Seneddol yng Ngheredigion, a’r cyn-Dwrnai Cyffredinol yr Arglwydd Morris o Aberafan.

Ond ni chafodd eu hapêl ateb gadarnhaol, gyda’r Gweinidog dros Gymunedau a Llywodraeth Leol y Farwnes Stowell o Beeston yn dweud fod y cwestiwn o ariannu’r gwaith yn dod o dan gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru.

“Tu hwnt i allu Cymru”

Wrth ofyn ei gwestiwn brys i’r Tŷ, dywedodd yr Arglwydd Wigley y byddai’r gost o atgyweirio’r difrod yn filiynau o bunnoedd, ac nad oedd gan y Cynulliad swm sylweddol o arian wrth gefn.

“Mewn rhai ardaloedd megis Aberystwyth a rhannau eraill o Geredigion a Sir Benfro, roedd y difrod yn hynod o ddifrifol ac fe all gostio miliynau i’w drwsio – llawer y tu hwnt i adnoddau awdurdodau lleol,” meddai.

“Prin iawn yw’r arian sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gefn.”

Gofynnodd yr Arglwydd Morris a fyddai’r Trysorlys yn cynyddu’r arian a fyddai ar gael i’r Cynulliad ar gyfer atgyweirio petai nhw’n gwneud hynny ar gyfer Lloegr.

Yn ôl yr Arglwydd Elystan Morgan, roedd y sefyllfa yn Aberystwyth ac ar hyd arfordir Cymru’n “llawer, llawer mwy anobeithiol nac y mae’r Llywodraeth yn ei werthfawrogi”, a bod “dyletswydd foesol” ar San Steffan i gynnig cymorth.

“Mae maint y dinistr yn gymaint fel ei bod hi’n amhosib i adnoddau’r awdurdodau lleol a Chynulliad Cymru wneud y gwelliannau sydd eu hangen,” meddai’r Arglwydd Morgan.

“Er bod amddiffyn y glannau yn fater sydd wedi ei ddatganoli, mae hwn yn fater cwbl wahanol – trychineb naturiol ar raddfa genedlaethol.”

Dim gwarant gan San Steffan

Ond wrth ymateb i’r Arglwyddi Cymreig, fe ddywedodd y Farwnes Stowell fod y cyfrifoldeb am ariannu’r gwaith yn cwympo ar ysgwyddau’r Cynulliad, ac mai eu dyletswydd nhw oedd darparu cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol tebyg i’r cynllun Bellwin yn Lloegr.

“Nid wyf mewn safle ar hyn o bryd i awgrymu fod angen i ni fynd y tu hwnt i gynllun Bellwin,” meddai.

“Wrth ymateb i’r sefyllfa a sicrhau bod cefnogaeth ddigonol i’r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio fe fuasem ni’n disgwyl yr un peth ar gyfer pawb sydd wedi’u heffeithio, ble bynnag y maen nhw yn y Deyrnas Unedig.

“Mae hwn yn fater wedi’i ddatganoli ac ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth yn cyflwyno’r cynllun Bellwin ac rydym ni’n credu mai dyma’r dull gorau, ac rydym yn edrych ar Gynulliad Cymru i weld beth fyddan nhw’n ei wneud.”

Dywedodd y Farwnes Stowell fod y Llywodraeth wedi buddsoddi mwy nag erioed mewn amddiffynfeydd llifogydd – ond fe gafodd hyn ei gwestiynu gan yr Arglwydd McKenzie o Luton a ddadleuodd fod y buddsoddiad wedi cwympo o hyd at £100miliwn mewn termau real ers 2010.

Heddiw fe ategodd Elystan Morgan ei alwad ar i San Steffan ymrwymo i ragor o gefnogaeth ariannol i’r ardaloedd yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio gan y storm.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf y bore yma, awgrymodd yr Arglwydd Morgan y gall y gost yng Nghymru redeg i “ddegau o filiynau”, a bod hyn yn mynd yn bellach na chyfrifoldeb y Cynulliad.

“Un peth yw arian tuag at amddiffynfeydd a morglawdd, sydd wedi’i ddatganoli – peth arall yw arian tuag at drwsio dinistr naturiol, ac fe ddylai ddod o Lywodraeth San Steffan,” meddai.