Mae o leiaf pump o bobl wedi’u lladd a mwy na 10 wedi’u hanafu mewn ffrwydrad mewn ffatri gemegol yn Japan.
Dywed yr heddlu bod y ffrwydrad wedi digwydd mewn ffatri metel a chemegol Mitsubishi Materials yn ninas Yokkaichi yn ystod gwaith cynnal a chadw.
Yn ôl y gwasanaethau brys cafodd 17 o bobl oedd wedi’u hanafu wedi’u cludo i ysbytai gerllaw. Dywed yr heddlu bod dau berson wedi marw ond mae adroddiadau eraill yn honni bod pump wedi’u lladd.