Mae swyddogion iechyd yng Nghanada wedi cadarnhau bod person wedi marw o straen H5N1 o’r ffliw adar yn Alberta – yr achos  cyntaf yng Ngogledd America.

Roedd y claf yn teithio o Tsieina pan ddechreuodd gael symptomau, ond yn ôl y gweinidog iechyd Rona Ambrose roedd yr achos yn un unigol ac nid oedd risg sylweddol  i’r cyhoedd.

Yn ôl swyddogion y wlad roedd y person – a fu farw ddydd Gwener– wedi dechrau teimlo’n sâl wrth deithio ar awyren o Beijing ar 27 Rhagfyr.

Dywedodd swyddogion iechyd y dalaith nad oedd unrhyw dystiolaeth ganddyn nhw ei fod wedi heintio  unrhyw un arall, ond nad oedden nhw chwaith yn siŵr o ble y cafodd y person ei heintio.

“Dyma’r achos cyntaf o’r firws penodol yma’n cylchredeg yn Beijing,” meddai Dr Gregory Taylor. “Bydd awdurdodau Tsieina â diddordeb mawr. Rydyn ni wedi cysylltu â nhw’n barod.”

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd mae 648 o achosion o’r straen H5N1 mewn pobl wedi’u cadarnhau ers canol mis Rhagfyr, y rhan fwyaf yn Asia, gyda 348 o’r rheiny’n marw o ganlyniad i’r firws.

Mae  nifer helaeth o’r achosion ymhlith pobl sydd yn dod i gyswllt gydag ieir sydd eisoes yn cario’r haint.

Ond mae gwyddonwyr yn cadw llygad manwl ar y straen H5N1, oherwydd ofnau y gall drawsnewid a dechrau lledu o berson i berson gan achosi pandemig.