Bydd meddygon teulu yng Nghymru’n gallu treulio mwy o amser gyda chleifion a llai o amser yn delio gyda biwrocratiaeth, yn ôl cytundeb newydd sydd wedi ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru.
Mae rhai o’r prif newidiadau yn cynnwys gosod llai o dargedau i feddygon teulu, cael syrjeris i weithio’n glystyrau gyda’i gilywdd a rhoi rôl iddyn nhw wrth ddeillio gydag achosion brys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y newidiadau hyn yn golygu llai o bwyslais ar fiwrocratiaeth, a mwy ar ganiatáu i feddygon teulu wneud eu penderfyniadau clinigol eu hunain.wei
Ond mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi pwysleisio mai perthynas rhwng claf a phractis fydd bwysica’, nid rhwng claf a meddyg unigol. – “y tim fydd yn bwysig,” meddai.
Symleiddio
Un o’r prif gamau fydd symleiddio’r ffordd mae meddygon teulu yn cael eu harian.
Gobaith y Llywodraeth yw y bydd hyn yn golygu llai o brofi cleifion yn ddiangen, gan olygu mwy o amser i edrych ar ôl cleifion bregus, yn enwedig rhai oedrannus.
Bydd y Llywodraeth yn mynnu bod yn rhaid i feddygfeydd ymuno â chynllun Datblygu Gwasanaeth Lleol newydd fydd yn ceisio cydlynu gofal cleifion ar draws ardaloedd – hynny’n golygu cydweithio i gynnig gwasanaethau.
Bydd y cynllun hwn hefyd yn golygu rôl gan feddygon cartref i ddelio gydag achosion damweiniau brys, gan gynnwys cyfrifoldeb dros ddarganfod canser yn gynnar, gofal diwedd bywyd a phobl hŷn bregus.
‘Ffydd yn y meddygon’
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn hapus gyda’r cytundeb a wnaed gyda Phwyllgor Meddygon Teulu (GPC) Cymru ar y newidiadau.
“Rwy’n falch iawn o fod wedi dod i ddealltwriaeth ar newidiadau i gytundebau meddygon teulu yng Nghymru fydd yn elwa meddygon a chleifion,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r newidiadau yn cael gwared ar y drefn o fiwrocratiaeth sydd yn wynebu meddygon teulu, gan roi mwy o amser iddyn nhw dreulio gyda’u cleifion mwyaf bregus, yn enwedig yr henoed.
“Rydym yn rhoi mwy o ffydd ym marn broffesiynol ein meddygon, gan adael iddyn nhw drin cleifion fel unigolion yn hytrach na cheisio cyrraedd criteria penodedig.
“Wrth newid y fformiwla ar gyfer ariannu clinigau, rydym ni hefyd yn mynd i’r afael ag anhafaledd iechyd sy’n bodoli rhwng ardaloedd cyfoethocaf a thlotaf Cymru.”
Derbyniodd y cytundeb groeso gan Dr Charlotte Jones, Cadeirydd GPC Cymru, gan ddweud y byddai’r newidiadau yn golygu fod gan glinigau “y gallu i reoli galw ac anghenion eu cleifion yn well, yn ogystal â lleihau biwrocratiaeth”.