Yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Justine Greening (llun: PA)
Mae awyren gymorth o Brydain ac arni offer cynhyrchu dŵr glân wedi glanio yn Ne Swdan er mwyn helpu osgoi argyfwng iechyd yn y wlad sydd yng nghanol rhyfel.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Justine Greening, y byddai’r cargo o bympiau dŵr, pibelli, tanciau dŵr a chemogolion yn cael eu defnyddio i ddarparu dŵr glân i filoedd o bobl sydd wedi gorfod ffoi’r ymladd.
Mae trafodaethau hefyd wedi cychwyn heddiw yn Addis Ababa, Ethiopia, rhwng y gwahanol garfannau, ar ddod â’r ymladd i ben.
Mae miloedd wedi cael eu lladd yn Ne Swdan a chymaint â 200,000 wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi yn sgil yr ymladd rhwng lluoedd sy’n deyrngar i’r arlywydd Salva Kir a’r rheini sy’n cefnogi ei ddirprwy Riek Machar sydd wedi cael ei ddiswyddo.
Dywed Ysgrifennydd Gwladol America, John Kerry, fod cychwyn trafodaethau uniongyrchol yn gam pwysig, ond bod angen i’r ddwy ochr roi buddiannau De Swdan uwchlaw eu buddiannau eu hunain.