Y ddau brifweinidog (Llun: PA)
Mae cyn-arweinydd cyngor Llafur yn yr Alban yn galw ar i gefnogwyr ei blaid bleidleisio dros annibyniaeth yn y refferendwm yn mis Medi.

Dywed John Mulvey, cyn arweinydd Cyngor Rhanbarthol Lothian, mai’r cam rhesymegol nesaf i’w wlad, yn dilyn llwyddiant Senedd yr Alban, yw annibyniaeth lwyr.

Mae o’r farn y byddai pleidlais o blaid ar 18 Medi yn creu gwlad fwy cyfartal i genedlaethau’r dyfodol.

“Mae’n gyfle i’n hwyrion fyw mewn glwad decach a fydd wedi cael gwared ar arfau niwclear a byw mewn economi fwy gwyrdd,” meddai ym mhapur newydd y Scotsman.

“Mae yna’r rheini nad ydyn nhw’n cefnogi’r SNP, neu nad ydyn nhw efallai’n hoffi Alex Salmond. Ond mae’n llawer pwysicach na hynny. Dylai pobl o bob plaid ddod allan i bleidleisio – o blaid gobeithio – ac wedyn penderfynu yn etholiad 2016 pwy ddylai gael eu hethol fel llywodraeth gyntaf yr Alban annibynnol.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Lafur yr Alban:

“Yn lle rhoi sylw i farn cyn-gynghorydd lleol, efallai y dylai’r ymgyrch o blaid gwahanu ganolbwyntio mwy ar argyhoeddi pleidleiswyr yr SNP sy’n gwrth cefnogi eu cynlluniau i chwalu Prydain,” meddai.

‘Ennill dadleuon y galon a’r pen’

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog David Cameron, wedi dweud ei fod yn benderfynol o weld pobl yr Alban yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

“Rhaid inni ddal ati i wthio dadleuon y pen a dadleuon y galon,” meddai.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod yn ennill dadleuon y pen yn gryf iawn. Mae angen inni bellach ennill rhai o ddadleuon y galon.

“Nid rhywbeth mae arnon ni eisiau perthyn iddi am resymau economaidd yn unig yw’r Deyrnas Unedig, ond hefyd am resymau emosiynol a hanesyddol.

“Mewn byd amrywiol a pheryglus, mae sicrwydd y Deyrnas Unedig, y gallu i fod yn rhan o rywbeth a allai fod yn stori o lwyddiant mawr, yn union fel yn y gorffennol – mae angen inni ennill y dadleuon rheini.

“Mae’n amlwg mae o bwysigrwydd mawr i mi ein bod ni’n ennill y refferendwm yma. Dw i’n meddwl bod y ddadl yn mynd o blaid y Deyrnas Unedig, ond ni fydd wedi cael ei hennill tan y bydd y bleidlais olaf wedi’i chyfrif.”

Pwyso am ddadl deledu

Parhau mae’r pwysau ar David Cameron i gymryd rhan mewn dadl deledu yn erbyn Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Mewn arolwg a gafodd ei gomisiynu gan yr SNP, roedd mwyafrif clir yn yr Alban ac yng ngweddill Prydain o blaid dadl deledu o’r fath.

“Bydd dadl deledu rhwng y ddau Brif Weinidog yn helpu Albanwyr i ddewis rhwng y ddau ddyfodol sy’n cael eu cynnig,” meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch Yes Scotland.

Dal i wrthod dadl o’r fath mae David Cameron er gwaethaf cais arall gan Alex Salmond.

“Dw i’n gwybod pam fod Alex Salmond yn gwthio’r ddadl yma – oherwydd ei fod yn colli’r ddadl bresennol a bod arno eisiau newid y ddadl,” meddai.

“Ond nid dadl rhyngddo ef a fi yw hon. Dylai’r ddadl fod rhwng pobl yn yr Alban sydd eisiau aros a phobl yn yr Alban sydd eisiau mynd.

“Does gen i ddim pleidlais yn hyn. Mater i’r Albanwyr ei benderfynu yw hyn.”