Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Michael Gove
Mae Ysgrifennydd Addysg Lloegr wedi cyhuddo ‘academyddion asgell chwith’ o ddefnyddio ffuglen fel y gyfres gomedi Blackadder Goes Forth i gamarwain y cyhoedd am y Rhyfel Mawr.

Mewn erthygl yn y Daily Mail, dywed Michael Gove  fod gwerthoedd fel ‘gwladgarwch, anrhydedd a dewrder’ yn cael eu diraddio:

“Mae’r gwrthdaro, i lawer, wedi cael ei weld trwy brism ffuglen dramâu fel Oh! What a Lovely War!, The Monocled Mutineer a Blackadder – fel siambls llwyr – cyfres o gamgymeriadau trychinebus gan elît di-glem,” meddai.

“Hyd yn oed heddiw, mae yna academyddion asgell chwith yn hapus iawn i fwydo’r mythau hynny.”

Ond yn ôl un o sêr Blackadder, Syr Tony Robinson, a oedd yn chwarae rhan Baldrick yn y gyfres, mae Michael Gove wedi gwneud “camgymeriad gwirion iawn”.

Dywedodd fod ei sylwadau’n gwbl anghyfrifol gan weinidog sy’n gyfrifol am addysg ac mae’r cyfan y mae’n ei wneud yw “lladd ar athrawon”.