Richard Wyn Jones
Bydd cyfarfod arbennig ym Mhenarth yr wythnos nesaf i nodi 90 mlynedd ers cyfarfod cyntaf mudiad a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru’r flwyddyn ganlynol.

Cafodd y cyfarfod cyntaf Y Mudiad Cymreig, ei gynnal yn 9 Bedwas Place, Penarth ar 7 Ionawr 1924, flwyddyn at hanner cyn sefydlu Plaid Cymru ym Mhwllheli ym mis Awst 1925.

Fe fydd y digwyddiad coffa yng ngwesty’r Windsor Arms yn y dref nos Fawrth (7 Ionawr) am 7.30pm.

Siaradwr gwadd y noson, sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas Hanes Plaid Cymru a changen leol Penarth o’r blaid, fydd yr academydd a’r sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones.