Mae disgwyl y bydd un o brif gyflenwyr trydan Cymru’n gostwng eu prisiau 3.3% yn fuan.
ScottishPower sy’n gyfrifol am rwydwaith trydan gogledd Cymru, glannau Mersi a chanolbarth a de’r Alban, ac mae’n debygol y bydd eu 2.2 miliwn o gwsmeriaid tua £40 ar eu hennill.
Mae gobaith hefyd y bydd arbedion pellach o £12 yn sgil penderfyniad y Llywodraeth i ariannu’r Disgownt Cartrefi Cynnes trwy drethiant cyffredinol yn hytrach na thrwy ardollau ar filiau ynni.
Y cyfan y bydd y gostyngiad yn ei wneud fodd bynnag fydd lliniaru ychydig ar y cynnydd o bron i 9% ym miliau nwy a thrydan y cwmni fis yn ôl.
Mae hefyd yn dilyn beirniadaeth o’r cwmni am beidio â throsglwyddo arbedion i’w gwsmeriaid yn gynt, rhywbeth yr oedd Nwy Prydain eisoes wedi’i wneud.