Bashar Assad, Arlywydd Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae adroddiadau am wrthryfelwyr Syria’n gorfod ymladd yn erbyn al-Qaida yn ogystal â’r unben Bashar Assad.
Yn ôl un mudiad sy’n ymgyrchu yn erbyn llywodraeth y wlad, Observatory for Human Rights, mae’r gwrthryfelwyr wedi cipio safle a oedd yn cael ei ddal gan grŵp sy’n gysylltiedig ag al-Qaida yn nhref Manbij yng ngogledd Syria.
Roedd y grŵp, ISIL (Islamic State in Iraq and the Levant), wedi bod yn defnyddio bomiau car i geisio amddiffyn ei diriogaeth.
Roedd yr ymladd wedi cychwyn ddydd Gwener, ar ôl i drigolion y dref gyhuddo ISIL o ladd meddyg poblogaidd.
Mae’r brwydro mewnol yn arwydd o gymhlethdod y gwrthryfel yn erbyn cyfundrefn Assad wrth i’r gwrthdaro gychwyn ar ei drydedd flwyddyn.