Un o awyrennau Flybe
Fe fu’n rhaid i awyren a oedd ar ei ffordd yn ôl i faes awyr Caerdydd ddoe lanio ar frys yn Paris oherwydd nam technegol.

Roedd tua 67 o bobl ar fwrdd awyren Flybe o Geneva pan laniodd tua 4 o’r gloch brynhawn ddoe ym maes awyr Orly.

Dywedodd llefarydd ran ran Flybe fod nam technegol bach wedi digwydd ar y daith a’u bod wedi anfon awyren arall i gludo’r teithwyr o Paris i Gaerdydd.

Ychwanegodd fod y cwmni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.