Eusebio oedd sgoriwr uchaf cwpan y byd 1966
Mae’r pêl-droediwr byd-enwog Eusebio, blaenwr Portugal a Benfica, wedi marw yn 71 oed.
Roedd Eusebio, a oedd yn cael ei adnabod fel y Black Panther, yn cael ei gyfrif yn un o’r chwaraewyr gorau erioed, a helpodd Portugal i ennill y trydydd safle yng Ngwpan y Byd 1966.
Gan sgorio naw o goliau dros ei wlad ef oedd sgoriwr uchaf y twrnament hwnnw.
Chwaraeodd dros Bortugal 64 o weithiau gan sgorio 41 o goliau.
Yn enedigol o Mozambique, fe wnaeth ei enw gyda chlwb Benfica, gan ennill 11 o deitlau cynghrair ac un Cwpan Ewropeaidd yn ystod ei yrfa dros 15 mlynedd yno.