Michael Schumacher
Mae teulu’r cyn bencampwr rasio ceir Michael Schumacher wrth ei wely wrth iddo barhau i fod mewn coma yn dilyn damwain sgïo yn yr Alpau yn Ffrainc.
Cafodd y cyn bencampwr Fformiwla Un anaf difrifol i’w ben ar ôl iddo daro craig tra’n sgio gyda’i fab yn Meribel ddydd Sul.
Mae meddygon wedi dweud bod y 48 awr nesaf yn ‘dyngedfennol’ i’r Almaenwr 44 oed.