Mae Twrci wedi carcharu mwy o newyddiadurwyr nag unrhyw wlad arall am yr ail flwyddyn yn olynol, gydag Iran a China’n dilyn, yn ôl corff sy’n gorchwylio’r cyfryngau.
Dywed y Pwyllgor i Ddiogelu Newyddiadurwyr, sydd a’i bencadlys yn Efrog Newydd, mai’r tair gwlad fu’n gyfrifol am garcharu mwy na hanner y 211 o newyddiadurwyr gafodd eu carcharu eleni.
Mae’r gwledydd eraill ymhlith y 10 uchaf yn cynnwys Eritrea, Fietnam, Syria, Azerbaijan, Ethiopia, Yr Aifft ac Uzbekistan.
Dywedodd Joel Simon o’r pwyllgor bod “carcharu newyddiadurwyr am eu gwaith yn arwydd o gymdeithas anoddefgar a gormesol.”
Ychwanegodd ei fod yn “anhygoel” bod Twrci ar ben y rhestr am yr ail flwyddyn yn olynol a bod cymaint o newyddiadurwyr yn cael eu carcharu mewn gwledydd fel Yr Aifft a Fietnam.