Mae cwmni awyrennau AirAsia wedi archebu 25 o awyrennau A330-300 ychwanegol mewn cytundeb a gyhoeddwyd ym Mharis heddiw.

Bydd adenydd yr Airbus A330 yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint sy’n cyflogi 6,000 o bobol.

Dyma’r archeb fwyaf o awyrennau A330 i Airbus ei dderbyn mewn un cytundeb .

Roedd AirAsia eisoes wedi archebu 26 o awyrennau A330 ac mae’r cytundeb heddiw yn dod a’r cyfanswm i 51.

Bydd yr archeb diweddara gan AirAsia hefyd yn cynnal 1,500 o swyddi ym Mhrydain.

‘Prawf o’r gallu yng Nghymru’

“Daw’r archeb ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus arall i Airbus ac mae’n cryfhau statws y ffatri gwerth £400 miliwn ym Mrychdyn,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.

“Mae diwydiant aerofod Prydain yn cyfrannu £24 biliwn tuag at yr economi yn flynyddol ac mae’n wych fod Airbus yn rhan o hyn.

“Mae’r cytundebau yma yn chwarae rhan fawr yn hybu economi Cymru ond maen nhw hefyd yn brawf o’r sgiliau, talentau a gallu ein gweithlu yma yng Nghymru.”