Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion yn dilyn ymosodiad ar fachgen 12 oed yn Llaneirwg, Caerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad tu allan i Ganolfan Gymunedol Llaneirwg ger archfarchnad Tesco tua 8yh nos Fawrth, 10 Rhagfyr.
Mae dau fachgen lleol, 14 a 12 oed, wedi cael eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu’n parhau i wneud ymholiadau.
Dywedodd Pc Alun Nevett bod gan y bachgen a ymosodwyd arno anawsterau dysgu a’i fod wedi cael ei ddyrnu a’i gicio.
“Pan ddechreuodd yr ymosodiad ar y cae ger Tesco roedd nifer o lanciau wedi rhedeg allan o’r ganolfan gymunedol gerllaw ac wedi ymgynnull ger y safle.
“Mae’r bobl ifanc yma i gyd yn llygad dystion posib ac rydym yn galw arnyn nhw neu eu rhieni i gysylltu â Heddlu De Cymru,” meddai.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.