Simon Thomas
Dylid ystyried cael rheolwyr proffesiynol i redeg clwstwr o ysgolion, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas.

Fe wnaeth yr AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yr awgrym wrth drafod argymhellion adroddiad Hill ynglŷn â dyfodol gwasanaethau addysg – sy’n cynnwys torri hyd at draean o’r 22 gwasanaeth addysg yng Nghymru.

Mae’r undebau athrawon yng Nghymru wedi dweud bod straen gynyddol y gwaith o fod yn brifathro, yn ogystal â’r gwahaniaeth bychan rhwng tâl penaethiaid a dirprwyon, yn gyfrifol am y cwymp mewn ymgeiswyr ar gyfer y swyddi.

Maen nhw hefyd yn dweud bod cynnydd wedi bod yn  nifer y penaethiaid sydd yn absennol oherwydd salwch.

Yn ddiweddar fe roddodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis ei ymateb i adroddiad Hill, gan gyhoeddi y byddai’r cyfrifoldeb dros wasanaethau gwella ysgolion yn cael eu trosglwyddo oddi wrth gynghorau ac i bedwar consortia addysg.

Rheolwyr yn rhannu baich

Awgrymodd Simon Thomas y byddai rheolwyr proffesiynol yn medru datrys y broblem o ddiffyg ymgeiswyr ar gyfer penaethiaid ysgolion yng Nghymru, gan ddweud y byddai rhannu’r baich o reoli yn galluogi prifathrawon i arwain yn addysgiadol.

“Mae angen i brif athrawon arwain yn addysgiadol ond ar hyn o bryd oherwydd pwysau cynyddol mae’n anodd,” meddai Simon Thomas. “Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn rhai argymhellion adroddiad Hill ar gyfer creu clwstwr o ysgolion gyda chyllidebau o filoedd o bunnoedd a safleoedd gwahanol.

“Rydyn ni felly angen rhywun i rannu baich ar y cyd gyda phrif athrawon. Gall penodi rheolwyr i weithio  wrth ochr prif athrawon ddarparu hyn.

“Dydyn ni ddim yn sôn am symud i ffwrdd o gymhwyster proffesiynol ar gyfer prif athrawon ond rydyn ni’n gweld cryn leihad o ymgeiswyr am y swydd ac felly mae angen ail-edrych ar y sefyllfa.

“Mae ffederaleiddio yn mynd i ddigwydd yn ôl Llywodraeth Cymru a beth sydd ei angen i reoli’r proses er mwyn sicrhau bod gennym y prif athrawon gorau sy’n arwain yn addysgiadol yw cymorth gan reolwyr proffesiynol.

“Mewn ardaloedd eraill yn y sector cyhoeddus fel iechyd rydyn ni’n  gweld nad yw llawfeddygon yn rheoli popeth. Maen nhw’n canolbwyntio ar drin cleifion.

“Bydd gan brif athrawon a bwrdd llywodraethwyr y penderfyniad olaf ynglŷn â dyfodol ysgolion.”