Mae gweriniaeth Iwerddon wedi cael ei rhyddhau o’r mesurau ariannol llym a gafodd eu gosod arni gan ei chredydwyr rhyngwladol.

Mewn anerchiad i bobl y wlad heno, fe fydd y Taoiseach Enda Kennedy yn diolch i’r Gwyddelod am eu haberth dros y tair blynedd diwethaf.

Derbyniodd y wlad eu rhan-daliad olaf o arian y benthyciad o 85 miliwn ewro gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ddydd Gwener.

Wrth ddisgrifio dinasyddion Iwerddon fel ‘gwir arwyr’ am ddygymod â’r toriadau llym, rhybuddiodd y Gweinidog Cyllid Michael Noonan fod ffordd bell o hyd i fynd.

Dywedodd fod y llanast ariannol dros y blynyddoedd diwethaf yr argyfwng gwaethaf yn hanes y wlad ers y newyn mawr.

Iwerddon yw’r wlad gyntaf ym mharth yr ewro i gwblhau eu rhaglen ad-dalu dyledion yn llwyddiannus.