Senedd-dy Sbaen (o wefan Go Madrid)
Mae o leiaf saith o brotestwyr wedi cael eu harestio y tu allan i senedd-dy Sbaen mewn gwrthdystiad yn erbyn deddfwriaeth ddrafft i gyflwyno dirwyon uchel am droseddau fel llosgi baner y wlad.

Cafodd tua 4,000 o brotestwyr eu rhwystro gan yr heddlu rhag amgylchynu’r senedd-dy yn hwyr ddoe.

Roedden nhw’n dangos eu gwrthwynebiad i ddeddfau a fyddai’n rhoi dirwyon o 30,000 ewro am losgi’r faner a sarhau’r wladwriaeth, a 1,000 ewro am sarhau neu fygwth plismyn yn ystod gwrthdystiadau.

Mae’r mesurau, sydd wedi cael eu cynnig gan y Cabinet ond a fydd angen cymeradwyaeth y senedd yn ogystal, yn diweddaru deddf sydd mewn grym ers 1992.