Pobl yn croesawu milwyr Ffrainc ym maes awyr Banqui (llun PA)
Mae 1,200 o filwyr Ffrainc wedi cyrraedd Gweriniaeth Canol Affrica ac yn teithio am ardaloedd y gogledd a’r gorllewin er mwyn ceisio atal y trais a’r lladd sy’n digwydd yno.

Mae carfannau Cristnogol a chyn wrthryfelwyr Mwslemaidd wedi bod yn ymladd yn yr ardaloedd yma.

Mae’r milisia Cristnogol yn deyrngar i gyn-arlywydd y Weriniaeth, Francois Bozize a’r Mwslemiaid yn deyrngar i’r llywodraeth newydd.

Fe wnaeth aelodau o’r milisia Cristnogol ymosod ar dref Banqui gyda’r wawr bore Iau diwethaf ac fe laddwyd o leiaf 281 o bobl yn ystod yr ymladd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran y Groes Goch eu bod wedi rhoi’r gorau i gasglu cyrff wrth iddi nosi ond eu bod yn credu y bydd nifer y marwolaethau yn codi yn ystod y dyddiau nesaf.

Fe wnaeth Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gytuno i ganiatau i filwyr Ffrainc ymuno efo llu heddwch o wledydd Affrica yn y Weriniaeth er mwyn ceisio cadw’r heddwch yno.

Roedd y Weriniaeth yn eiddo i Ffrainc cyn dod yn wlad annibynnol.