Achubwyr yn chwilio trwy'r rwbel
Fe gafodd driliau’r achubwyr eu diffodd am ddau funud yn Christchurch heddiw wrth i Seland Newydd gynnal dau funud o dawelwch i gofio’r rhai a gafodd eu lladd gan y daeargryn union wythnos yn ôl.
Erbyn hyn, mae nifer y meirwon tebygol wedi codi i fwy na 240 ac roedd clychau eglwysi’r wlad gyfan yn canu am 12.51pm amser lleol – union amser y trychineb.
Roedd miloedd o bobol ar draws y ddinas wedi ymgynnull yn grwpiau neu ar eu pennau ei hunain i blygu pen a chofio mewn wrth i faneri gael eu gostwng i hanner y mast.
Mae’r awdurdodau’n dweud eu bod wedi tynnu 154 o gyrff o’r rwbel ond fod nifer y meirw yn sicr o godi.
‘Angen gwyrth’
Does neb wedi’u tynnu o’r rwbel yn fyw ers y diwrnod ar ôl y daeargryn ac mae achubwyr yn cydnabod y bydd angen gwyrth i gael hyd i ragor o oroeswyr.
Mae mwy na 900 o achubwyr rhyngwladol wedi ymuno â channoedd o swyddogion lleol i barhau â’r gwaith o chwilio ac achub.
Mae timau hefyd ar eu ffordd o wledydd Prydain i helpu’r awdurdodau yn Seland Newydd i geisio adnabod y cyrff.
Ddoe, fe gafodd bachgen pum mis oed ei gladdu yn yr angladd cyntaf i’r rhai a fu farw.