Ceir newydd
Mae barnwyr Ewropeaidd wedi penderfynu nad yw cwmnïau yswiriant yn gallu codi llai am yswiriant ceir i ferched.
Roedd cymdeithas ddefnyddwyr o wlad Belg yn herio’r arfer o gynnig polisïau rhatach i ferched ar gyfer yswiriant car, yswiriant meddygol preifat a chynlluniau pensiwn.
Y disgwyl yw y bydd y penderfyniad yn golygu bod gyrwyr benywaidd o dan 26 oed yng ngwledydd Prydain yn wynebu cynnydd o 25% yn y pris ar gyfartaledd.
Er hynny, dim ond 10% fydd y gostyngiad tebygol i ddynion, yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain.
Roedd mudiadau gyrru wedi gwrthwynebu’r achos, gan ddweud bod yswiriant yn cael ei seilio ar risg, a bod merched yn cael llawer llai o ddamweiniau na dynion.
Mae’r gwahaniaeth yn arbennig o amlwg ymhlith pobol ifanc.
Fe ddywedodd cyfarwyddwr cyffredinol yswiriant ac iechyd ABI wrth Radio 4 y byddai newid y rheolau presennol yn cael effaith eang – nid yn unig ar fyd yswiriant ceir ond hefyd ar gynlluniau pensiwn ac yswiriant bywyd.