Cennin Pedr (Derek Ramsey - Trwydded GNU)
Fe fydd Shirley Bassey ac Owain Glyndwr ochr yn ochr yng Nghaerdydd wrth i’r brifddinas ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Mae plant ysgol wedi creu modelau anferth o’r ddau ar gyfer yr orymdaith flynyddol sy’n mynd o Neuadd y Ddinas i Ganolfan Dewi Sant.

Fe fydd rheolwr pêl-droed Cymru, Gary Speed, ymhlith y rhai sy’n gorymdeithio ac yn mwynhau awr o gerddoriaeth yn yr Ais.

Mae’n un o’r prif ddigwyddiadau wrth i’r diwrnod gael ei ddathlu ar hyd a lled y byd a’r Llywodraeth, fel arfer, yn ceisio defnyddio’r cyfle i hybu busnes a thwristiaeth.

Blodau i Cameron

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn bwriadu mynd â chennin Pedr i gyfarfod y Cabinet heddiw, gan gynnwys blodyn i’r Prif Weinidog, David Cameron.

Goleuo’r Empire State

Fe fydd yr Empire State Building yn cael ei oleuo’n goch, gwyrdd a gwyn yn Efrog Newydd, lle bydd yr actores Catherine Zeta Jones hefyd yn derbyn gwobr am ei gwaith yn hyrwyddo Cymru. Mae dathliadau hefyd yn Los Angeles.

Neges y Prif Weinidog

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi anfon neges ar draws y byd yn sôn am rai o ddigwyddiadau mawr y flwyddyn, gan gynnwys y Cwpan Ryder. Ar drothwy’r Refferendwm Datganoli, mae hefyd wedi pwysleisio bod datganoli’n gwneud lles.

“Mae datganoli’n golygu ein bod yn gallu gwneud pethau troson ni ein hunain yn lle gorfod cwyno o’r ymylon,” meddai. “R’yn ni wedi cael nerth newydd trwy gydweithio i ddyfeisio atebion sydd wedi eu creu yng Nghymru, fel y rhaglen ProAct sydd wedi achub 12,000 o swyddi.”

Lansio elusen newydd

Fe fydd elusen newydd, y Gronfa Gymunedol i Gymru’n cael ei lansio’n swyddogol gyda’r Tywysog Charles yn noddwr. Y nod yw cefnogi prosiectau cymunedol ac mae wedi cael ei gefnogi gan Cheryl Gillan.

“Mae’r Gronfa’n cynrychioli’r union fath o ysbryd cymunedol a diwylliant gwirfoddoli y mae’r Llywodraeth yn awyddus i’w hybu gyda’r Gymdeithas Fawr,” meddai. “Dyma brawf bod awydd gwirioneddol am ffilanthropi yng Nghymru.”