Nick Bourne - addo pethau annisgwyl
Fe fydd diddymu trethi i fusnesau bach a cherdyn i roi breintiau i gyn-filwyr ymhlith prif bolisïau’r Blaid Geidwadol yn Etholiadau’r Cynulliad.

Maen nhw hefyd am ailadrodd eu haddewid i warchod y gwario ar y Gwasanaeth Iechyd, gan gyhuddo Llywodraeth y Glymblaid o dorri £430 miliwn o’i gyllideb.

Fe gafodd y syniadau eu datgelu mewn cynhadledd i’r wasg ar drothwy cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghymru ddiwedd yr wythnos.

Dileu treth

Yn ôl yr arweinydd Cymreig, Nick Bourne, fe fyddan nhw’n dileu trethi busnes i fentrau sydd â gwerth trethiannol o lai na £12,000.

“Fe fydd yna ychydig bethau annisgwyl yn ein maniffesto ar gyfer yr etholiad,” meddai. “Mae hwn yn etholiad pwysig ac r’yn ni’n credu ei bod hi’n amser cael newid yng Nghymru.”

Fe roddodd ychydig o wybodaeth am y cerdyn cyn-filwyr – fe fyddai’n rhoi blaenoriaeth iddyn nhw wrth gael triniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd ac yn caniatáu iddyn nhw deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.