Nnelson Mandela adeg ei ben-blwydd yn 94 (PA)
Mae rhai o wleidyddion amlyca’ Cymru wedi talu teyrngedau i gyn Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, ar ôl iddo farw neithiwr.

Fe fydd baneri’n cael eu chwifio ar hanner y mast uwchben adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd heddiw.

Mae sawl un wedi cyfeirio at ymweliad yr ymladdwr hawliau â Chymru yn 1998 pan gafodd ryddid Caerdydd a sôn am gefnogaeth pobol Cymru i’r frwydr yn erbyn apartheid.

Dyfyniad o deyrnged y Prif Weinidog, Carwyn Jones

“Pan ymwelodd yr Arlywydd Mandela â Chymru, fe ddiolchodd i bobol Cymru am eu cefnogaeth – roedd yn ennyd na fyddwn ni fyth yn ei hanghofio.

“Ond er yr hyn wnaethon ni, doedd dim rhaid i ni wynebu apartheid o ddydd i ddydd. Doed dim rhaid i ni wynebu’r perygl o gael ein carcharu neu waeth.

“Roedd Nelson Mandela wedi wynebu’i frwydr gydag urddas a heb chwerwder a dyna pam y bydd yn cael ei gofio am genedlaethau i ddod.”

Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad

“Roedd ei ewyllys anhygoel, ei wyleidd-dra rhyfeddol a’i ymrwymiad di-droi’n ôl i ddemocratiaeth, cyfiawnder a rhyddid wedi chwyldroi hanes a newid y byd.”

Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru

“Tra bod ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg drist yma, gallan nhw ddwyn cysur o’r wybodaeth ei fod yn ddyn gwirioneddol fawr a oedd wirioneddol wedi newid y byd.”

Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

“Ar ôl canrifoedd o ormes, fe ryddhaodd Dde Affrica o ormes apartheid hiliol ac, wrth wneud hynny, fe ddangosodd i weddill y byd sut i arwain gyda tosturi a gras.

“Doed dim byd tebyg wedi bod i’w allu i uno cymunedau a dod â chyfiawnder i wladwriaeth ranedig a phoenus a bydd ei waddol yn parhau am genedlaethau i ddod.”

Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad

“Er gwaetha’r cyfan yr oedd e, yn unigolyn, a phobol dduon De Affrica wedi mynd trwyddo yn ystod blynyddoedd apartheid, roedd wedi gallu gweithio gyda’r gormeswyr hynny i sicrhau De Affrica rydd a democrataidd i bawb.

“Mae’r byd wedi’i adael yn llawer gwell lle oherwydd ei gyfraniad.”

Yr eglwysi hefyd

Mae arweinwyr crefyddol hefyd wedi bod yn cofio Nelson Mandela.

“Byddai gan bobol ddu De Affrica, oedd wedi dioddef creulondeb y system apartheid, bob cyfiawnhau i ddial ar eu gorthrymwyr, ond diolch i esiampl anhygoel Mandela llwyddwyd i osgoi rhyfel cartref gwaedlyd,” meddai’r Parchg Ddr Geraint Tudur o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.