Nelson Mandela
Cyhoeddwyd heno fod cyn Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, wedi marw yn 95 oed.

Roedd Mandela wedi bod yn dioddef o salwch ar yr ysgyfaint ers peth amser ac wedi bod yn yr ysbyty am dri mis dros yr haf.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn darllediad teledu gan Arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma.

“Mae ein gwlad wedi colli ei mab mwyaf” meddai Mr Zuma.

Treuliodd Nelson Mandela 18 o flynyddoedd dan glo mewn carchar ar Ynys Robben am gymryd rhan mewn gweithgarwch yn erbyn apartheid, a naw mlynedd mewn carchar arall.

Daeth yn Arlywydd ei wlad yn 1994, oedd yn benllanw ar ei yrfa wleidyddol, y tro cyntaf i ddyn du dderbyn y swydd.

Ymateb Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymateb i’r newyddion trwy dalu teyrnged i Mandela.

“Gellid disgrifio Nelson Mandela fel un o ffigyrau mwyaf yr oes fodern.”

“Does dim llawer o bobol yn gallu hawlio eu bod wedi newid eu cenedl er gwell, trwy ddod â’r hyn oedd yn gymdeithas aruthrol o ranedig at ei gilydd.”