Plentyn yn cael chwistrell trwyn
Mae swyddogion iechyd yng Nghymru yn galw ar rieni plant dwy a thair oed i drefnu fod eu plant yn cael eu brechu rhag ffliw.

Mae rhaglen imiwneiddio rhag ffliw eleni yn cynnig chwistrell trwyn syml i ddiogelu plant ifanc ond nid yw ond yn effeithiol cyn i’r salwch daro. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, cafodd llai nac un o bob tri o’r 62,000 plentyn dwy a thair oed sy’n gymwys eu himiwneiddio hyd yn hyn yng Nghymru – cwta 31%.

Dywedodd Dr Zed Sibanda, paediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg “Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn ar gyfer plant dwy a thair oed yn dod i ben ym mis Rhagfyr/Ionawr, felly dylai rhieni sydd heb drefnu i’w plant gael eu brechu eto weithredu yn syth.”

Ychwanegodd:  “Nid yw plant dwy a thair oed yn gallu deall ac esbonio os ydynt yn dechrau cael symptomau tebyg i ffliw – sy’n golygu efallai na wneir diagnosis ffliw tan yn gymharol hwyr o gymharu ag oedolyn fyddai’n gallu asesu eu hiechyd eu hunain yn rhwyddach.

“Golyga hynny fod y plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau posib ac o ddioddef yn ddiangen. Ond gellir rhwystro hyn oll trwy un daith syml at y meddyg teulu i gael y brechiad chwistrell trwyn.”

Diogel

Dyma flwyddyn gyntaf y rhaglen flynyddol, a fydd yn y pendraw yn gweld pob plentyn rhwng dwy ac un ar bymtheg oed yn cael cynnig y brechlyn pob Hydref. Mae hyn yn ychwanegol i’r grwpiau cymwys eraill fel pobl 65 oed a throsodd, pobl mewn grwpiau ‘risg’ o chwe mis ymlaen a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor, a phob menyw feichiog.

Dywedodd  Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru: “Mae’r chwistrell trwyn yn syml, yn ddiogel a hyd yn oed os yw trwyn plentyn yn rhedeg neu os yw’n tisian yn syth ar ôl cael y chwistrell, fe fyddant wedi’u diogelu o hyd.”