Bydd rhagor o brofion sgrinio am TB yn cael eu cynnig i ddisgyblion yn Ysgol Y Strade, Llanelli ar ôl i aelod o staff a disgyblion gael prawf positif am yr haint.
Y mis diwethaf, cafodd 122 o ddisgyblion a 29 aelod o staff brawf TB gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, a wnaeth ddarganfod fod gan dri disgybl ac un aelod o staff yr haint.
Ond mae’n ymddangos mai bach iawn yw’r risg y bydd y rhai sydd a’r haint yn heintio disgyblion eraill, yn ôl Sion Lingard, Cadeirydd y Tîm Rheoli.
“Pobol sydd wedi bod yn byw yn yr un tŷ ac sydd wedi cael cysylltiad agos gyda rhywun â’r diciâu am gyfnod hir sy’n debygol o gael eu heintio” meddai gan ddweud bod modd ei drin gyda gwrthfiotigau.
“Rydym hefyd wedi penderfynu nad oes cysylltiadau rhwng yr ysgol a phedwar achos arall a fu yn Llanelli dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Fel rhagofal, bydd 224 o ddisgyblion eraill yn cael eu profi ar Ragfyr 11 a 12.
Mae’r diciâu yn haint sydd i’w weld yn yr ysgyfaint fel arfer, ond gall unrhyw ran o’r corff gael ei effeithio. Y symptomau cyffredin yw tymheredd uchel, peswch a diferion o waed yn y poer.