Fe fydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn cynnal rhagor o streiciau yn ymwneud a’r ffrae dros bensiynau.
Bydd aelodau o Undeb y Frigâd Dân (FBU) yn cerdded allan o’u gwaith am bedair awr ar 13 a 14 Rhagfyr. Hon fydd y pumed streic ers mis Medi.
Mae’r undeb yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “anwybyddu” eu pryderon am y cynnydd mewn cyfraniadau sy’n golygu y bydd diffoddwyr tân yn gorfod talu miloedd yn ychwanegol i’w pensiynau.
Maen nhw hefyd yn bryderus y bydd diffoddwyr yn colli eu swyddi os ydyn nhw’n methu prawf iechyd os yw eu hoed ymddeol yn cael ei ymestyn i 60.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb, Mark Wrack: “Mae’r Llywodraeth yn gwrthod anrhydeddu’r cytundeb pensiwn a wnaethpwyd gyda’r diffoddwyr tan pan wnaethon nhw ymuno a’r gwasanaeth tân.”
Ni fydd y frigâd dan yn yr Alban yn ymuno a’r streic wrth i’r undeb yno ystyried cynlluniau Senedd yr Alban ynglŷn â gofynion iechyd.