Nasir Malik
Mae cyn brif weithredwr elusen lleiafrifoedd ethnig Cymru, AWEMA, wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiadau o dwyll wrth ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe heddiw.
Mae Nasir Malik, 64, o Brynmill, Abertawe yn cael ei gyhuddo o dri achos o dwyll, sy’n cynnwys dwyn £16,316 o arian yr elusen.
Honnir iddo dalu dau siec i’w gyfrif ei hun – y cyntaf ym mis Mawrth 2010 am £2,500 a’r ail ym mis Awst am £9,417.
Daeth AWEMA, a fu’n dosbarthu arian i brosiectau yng Nghymru i hybu cydraddoldeb, i ben ym mis Chwefror 2012.
Fe blediodd Nasir Malik yn ddieuog i’r tri chyhuddiad a chael ei ryddhau ar fechnïaeth. Bydd yn ymddangos eto yn Llys y Goron Abertawe ar Ragfyr 13.