Jane Hutt
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, wedi beirniadu Datganiad yr Hydref gan George Osborne am beidio â gwneud digon i wella cyllid cyhoeddus yng Nghymru.
Daw hyn er gwaethaf y disgwyl bod Datganiad y Canghellor yn mynd i olygu cynnydd bychan i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda Swyddfa Cymru yn dweud ei fod yn hyd at £100 miliwn yn ychwanegol.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd cyfanswm y cynnydd yn eu cyllid yn £66.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014/15, gan godi i £74 miliwn yn 2015/16 – na fydd yn cael llawer o effaith ar Gymru yn ôl Jane Hutt.
“Er ein bod ni’n croesawu’r rhagolygon am dwf yn yr economi, dyw Datganiad yr Hydref heb wneud llawer i newid y sefyllfa heriol o ran cyllid cyhoeddus i Gymru,” meddai Jane Hutt.
“Ar ôl tair blynedd a hanner o doriadau i’r cyllid, a’r adfywiad arafaf a gwanaf o ddirwasgiad mewn hanes, rydym ni dal yn wynebu penderfyniadau anodd ar gyflawni’n blaenoriaethau ar dwf a swyddi, trechu tlodi, edrych ar ôl pobl fregus a sicrhau gwasanaeth o’r radd flaenaf i bobl ar draws Cymru.”
‘Penderfyniadau anodd’
Dywedodd fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei dorri o 10% mewn termau real ers 2010.
“Ar y cyfan mae’r lleihad mewn cyllid yn sylweddol llai na’r rhai yr oedden ni’n wynebu’r hydref diwethaf. Fodd bynnag, mae ychydig o newid i’n cyllideb ar gyfer 2014/15 a 2015/16 – ond does dim llawer o adnoddau ychwanegol ar gael i fynd i’r afael a’n blaenoriaethau.
“Mae’r estyniad i’r cap ar gyfraddau llog i fusnesau bach yn rhywbeth mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw amdano ers sbel.
“Mae’r newyddion am Wylfa Newydd yn amlwg i’w groesawu.
“Bydd newidiadau i’r system les yn cael effaith fawr ar lawer o unigolion a theuluoedd bregus ar draws Cymru. Bydd ein Cyllid Terfynol ar gyfer 2014/15 yn cael ei benderfynu gan ein blaenoriaethau ac yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd yr ydym wedi gorfod gwneud.”
Croesawodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards, gynlluniau i gynyddu buddsoddiad mewn busnes, ond roedd yn feirniadol o’r adferiad araf yn yr economi, codi’r oed pensiwn a fyddai’n debygol o gael mwy o effaith ar Gymru, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cefnu ar broblem newid hinsawdd wrth leihau Trethi Gwyrdd.
“Mae Plaid Cymru yn croesawu’r rhagolygon twf, rhewi’r dreth tanwydd ac ymrwymiad y Canghellor o’r diwedd i fuddsoddi mwy mewn busnesau,” meddai Jonathan Edwards.
“Fodd bynnag, er gwaethaf rhai cyhoeddiadau cadarnhaol, rydym yn pryderu na fydd y twf hwn yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd y toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd yn dal i ddod, a lefelau cynyddol o ddyled bersonol.”
Rhai o brif bwyntiau Datganiad yr Hydref:
- Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllid (OBR) wedi cynyddu eu rhagolwg o’r twf yn yr economi yn 2013 o 0.6% i 1.4%, ac wedi codi’u rhagolwg ar gyfer 2014 o 1.8% i 2.4%
- Pensiwn gwladol yn codi £2.95 yr wythnos o fis Ebrill nesaf ymlaen
- Cynllun i godi’r oed pensiwn i 68 ar gyfer pobl yn eu 40au nawr, ac i 69 ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn eu 30au
- Mesurau i fynd i’r afael a thwyll ac osgoi talu trethi, er mwyn ceisio codi £9 biliwn dros y pum mlynedd nesaf
- Lwfans treth o £1,000 i gyplau priod o Ebrill 2015 ymlaen
- Lleihau trethi gwyrdd er mwyn cael biliau ynni rhatach
- Dim cynnydd mewn treth tanwydd
- Buddsoddi mewn isadeiledd, gan gynnwys pwerdy niwclear newydd yn Wylfa, Ynys Môn mewn partneriaeth gyda Hitachi
- Pobl ddi-waith rhwng 18 a 21 sydd heb sgiliau mathemateg na Saesneg yn cael hyfforddiant yn y sgiliau yma, ac yn gwneud profiad gwaith, hyfforddiant neu waith cymunedol ar ôl chwe mis o ddiweithdra, neu’n wynebu colli eu budd-daliadau
- 30,000 o lefydd ychwanegol i fyfyrwyr yn cael eu cynnig y flwyddyn nesaf, gyda’r cyfyngiadau ar niferoedd yn cael eu dileu o 2015
- Cap o 2% ar gyfraddau llog i fusnesau bach yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall o Ebrill 2014