Bad achub yn symud cwpl o'u cartref yn Y Rhyl
Mae pobl yn y Rhyl wedi cael eu hachub o’u cartrefi mewn badau achub wrth i’r tywydd garw achosi problemau dybryd yng ngogledd Cymru.
Mae’r prom yno hefyd ynghau wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion achosi i’r tonnau ddod dros amddiffynfeydd llifogydd.
Mae timau o wasanaeth y Bad Achub (RNLI) a Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru yn archwilio tai ar hyd strydoedd sydd wedi’u heffeithio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un mewn trafferth neu o dan ddŵr yn Y Rhyl.
Mae gwirfoddolwyr wedi achub 25 o drigolion a dau gi wrth ddefnyddio dau fad achub – ymgyrch sydd bellach wedi dod i ben.
Mae 400 o bobl yn cael lloches yn nghanolfan hamdden y Rhyl.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gadael ardal Ffordd Garford, Y Rhyl i aros gyda pherthnasau neu ffrindiau i gysylltu â nhw ar unwaith.
Mae’r Gwasanaethau Brys yn chwilio’r ardal sydd wedi’i heffeithio er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl drigolion yn ddiogel. Y rhif i’w ffonio yw 01492 518383.
Y promenad yn Y Rhyl
Mae ardaloedd ar hyd yr arfordir o Ynys Môn i Lerpwl wedi derbyn rhybuddion am lifogydd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru: “Dylai pobol gadw llygad am y wybodaeth ddiweddaraf ar y we, y radio a’r teledu.”
Mae Network Rail wedi cadarnhau na fydd gwasanaeth tren ar gael rhwng Y Rhyl a Chaer yfory tan o leiaf hanner dydd.
Sir y Fflint
Yn Sir y Fflint mae’r heddlu yn annog trigolion i adael eu cartrefi oherwydd “risg uchel o lifogydd”.
Mae disgwyl i ardaloedd o Greenfield i Fagillt a Pharlwr Du yn Sir y Fflint ddioddef o lifogydd o ganlyniad i wyntoedd cryfion a llanw uchel – yn benodol Talacre, Ty’n y Morfa, Dee Bank, Boot, Welston, Walwen a Pharc Busnes Maes Glas.
Mae tua 5 o ysgolion yn Sir y Fflint wedi cau ac mae trenau sy’n rhedeg o Gaer i Gaergybi wedi eu canslo. Mae pont yr A548 yn Fflint wedi cau yn y ddau gyfeiriad.
Y llifogydd yn Y Rhyl
Mae Canolfan Hamdden Treffynnon ar Ffordd Fron Park yn cael ei hagor fel lloches ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno ei defnyddio.
Gwarchod
Mae’r heddlu’n gofyn i bobol symud eu heiddo mwyaf gwerthfawr i le diogel a gwneud yn siŵr eu bod yn gwrando ar gyngor gan y gwasanaethau brys er mwyn cadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel.
Mae cyfanswm o 16 o rybuddion llifogydd wedi cael eu rhoi yng Nghymru – y rhan fwyaf yng ngogledd Cymru ond rhai sydd hefyd yn ymestyn i ardal Abertawe.
Cafodd gwyntoedd cryfion eu cofnodi mewn rhannau o ogledd Cymru heddiw:
Dyma’r rhai cyflymaf:
Capel Curig: 77mya
Aberdaron: 68mya
Aberporth: 57mya
Y Fali: 52mya
Penarlâg: 52mya
.