Mae bron i 600 o blant o dan 16 oed yn cychwyn ysmygu bob dydd ym Mhrydain, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Thorax.

Fe wnaeth arbenigwyr o Cancer Research UK a Choleg Imperial Llundain ddefnyddio data gan 6,500 o blant i amcangyfrif bod 207,000 o bobol o dan 16 – yn benodol y rhai rhwng 11-15 oed – wedi cychwyn ysmygu rhwng 2010 a 2011.

O’r cyfanswm, 30 o blant o Gymru oedd yn ysmygu am y tro cyntaf bob diwrnod o’i gymharu â 463 yn Lloegr, 50 yn yr Alban a 19 yng Ngogledd Iwerddon.

Deddfwriaeth

Dywedodd yr arbenigwyr a fu’n cynnal yr ymchwil: “Fe ddylai’r data godi ymwybyddiaeth o ysmygu ymysg plant a helpu i dynnu sylw at y mater pwysig yma.

“Mae angen deddfwriaeth newydd i geisio mynd yn groes i ymdrechion masnach y diwydiant tybaco, ond bydd angen cefnogaeth gyfreithiol yn rhyngwladol ac yn lleol.”

Mae pobol sy’n cychwyn smygu cyn eu bod nhw’n 15 oed yn wynebu risg uwch o gael canser yr ysgyfaint na’r rhai sy’n cychwyn yn hwyrach ac yn ôl Alison Cox, pennaeth polisi tybaco Cancer Research:

“Mae’r 570 o blant sy’n cychwyn smygu bob diwrnod yn ormod o fywydau a fydd yn gaeth i arferiad a fydd yn lladd mwy na hanner ohonyn nhw os bydden nhw’n parhau i smygu.”

Roedd hi’n croesawu ymdrechion Aelodau Seneddol Ewrop i gyfyngu hysbysebion sigaréts electroneg, rhoi rhybuddion mwy ar bacedi sigaréts a gwaharddiad ar sigaréts menthol.