Mae prifathrawes nodedig wedi cael ei chyhuddo o gyfres o droseddau rhyw honedig ar fachgen o dan 16 oed.
Mae Ann Lakey, 53, wedi ei diarddel am 12 mis o’i gwaith fel Prif Weithredwr Ffederasiwn o Ysgolion Durham, wedi ei chyhuddo o wyth o droseddau rhywiol honedig a ddigwyddodd rhwng mis Ebrill 1988 a mis Mai 1989.
Nid oedd y bachgen yn ddisgybl yn yr ysgol lle’r oedd hi’n gweithio ar y pryd.
Mae’r ffederasiwn yn cynnwys Coleg Busnes Cymunedol Durham yn Ushaw Moor, a Choleg Cymunedol Fyndoune yn Sacriston. Roedd hi’n cael ei hadnabod am lwyddo i gael y cynnydd mwyaf yng nghanlyniadau TGAU yn Lloegr, ar ôl i arolygwyr Ofsted ddyfarnu’r ddau goleg yn “ardderchog” yn 2011.
Bydd Ann Lakey o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Consett ar Ionawr 7.