Yr Uchel Lys yn llundain
Mae enw môr-filwr, a gafwyd yn euog o lofruddio gwrthryfelwr a oedd wedi ei anafu yn Afghanistan, wedi cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.
Cafodd enw’r Sarjant Alexander Wayne Blackman ei gyhoeddi yn yr Uchel Lys wedi i’r Prif Arglwydd Ustus Thomas, Mr Ustus Tugendhat a Mr Ustus Holroyde godi gorchymyn a fyddai wedi cadw ei enw’n gyfrinachol.
Fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi y dylai enwau dau fôr-filwr arall a gafwyd yn ddi-euog mewn achos blaenorol, hefyd gael eu datgelu.
Ond fe fydd cyfreithwyr yn dadlau yn erbyn codi’r gorchymyn mewn achos pellach.
Mae’r penderfyniad heddiw yn dod wedi achos yr wythnos diwethaf yn Wiltshire, lle bu cyfreithwyr yn dadlau y bydd bywydau’r rhai sydd wedi cael eu henwi “mewn peryg mawr”.