Mae gyrrwr lori wedi cael ei ladd ar ôl i’w gerbyd droi drosodd mewn gwyntoedd cryfion yn yr Alban.

Cafodd pedwar o bobl eraill eu hanafu ar ôl i’r lori droi drosodd a glanio ar nifer o geir ar yr A801 ger cylchfan Boghead, yn Bathgate yng ngorllewin Lothian tua 8.10yb.

Mae’r gwyntoedd cryfion hefyd wedi achosi anawsterau i deithwyr wrth i’r gwasanaeth trenau yn yr Alban gael ei ohirio ac mae 100,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan.

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i beidio â theithio oherwydd yr amodau “hynod o beryglus” ar y ffyrdd.

Mae nifer o ffyrdd wedi cau oherwydd coed yn disgyn, damweiniau a llifogydd mewn rhannau o Sir Perth.

Cafwyd gwyntoedd hyd at 114 milltir yr awr ger Fort William.