Cyngor Sir Abertawe
Mae Cyngor Sir Abertawe’n ystyried gorfod diswyddo rhai o’i gweithwyr mewn cynlluniau i arbed £45miliwn o’i gyllideb dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r cyngor wedi dweud mai bwriad y cynigion i’w cyllideb yw bod “yn fwy effeithiol ac effeithlon”, gan ddweud fod y cynlluniau wedi’i dylanwadu gan “ymateb cadarnhaol” gan y cyhoedd i’w menter Abertawe Gynaliadwy – Addas i’r Dyfodol.
Dywedodd y Cyngor y byddai’n anelu i ganolbwyntio ar gadw gwasanaethau rheng flaen wrth wneud newidiadau a gwella effeithlonrwydd.
“Rhaid i ni arbed £45 miliwn dros y tair blynedd nesaf,” cadarnhaodd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gyllid. “Rydym wedi cynnal adolygiad manwl o’n gwariant ar draws yr holl wasanaethau i leihau gwastraff, ond nid ymarfer torri costau yn unig yw ein cynigion.
“Rydym yn sefyll dros Abertawe trwy fuddsoddi yn ein blaenoriaethau a’r gwasanaethau rheng flaen sydd o bwys i bobl.
“Os cymeradwyir y cynigion hyn, byddwn yn gwario £1.5m y dydd yn Abertawe yn cefnogi cymunedau a’r economi leol.”
Swyddi’n debygol o fynd
Cadarnhaodd Rob Stewart hefyd y byddai’r Cyngor yn gorfod edrych ar ddiswyddo rhai gweithwyr yn orfodol, gan ddweud bod nifer eisoes wedi gadael eu swyddi neu ymddeol yn wirfoddol.
“Mae’r cyngor yn gwneud popeth posib i amddiffyn swyddi,” meddai. “Yn y gorffennol rydym wedi canolbwyntio ar leihau costau rheoli i amddiffyn y rheng flaen a byddwn yn parhau i wneud hynny.
“Os ydym yn gweithredu nawr ac yn ailstrwythuro’r cyngor a’i wneud yn gallach, yn fwy effeithiol ac effeithlon mae’n golygu y bydd ein gwasanaethau yn fwy cynaliadwy a byddwn yn gallu amddiffyn swyddi yn y tymor hir.”
Dywedodd y Cyngor bod staff yn cael cynnig “i golli swydd yn wirfoddol, lleihau eu horiau, secondiadau, ailhyfforddi ac adleoli”, a bod 273 aelod o staff eisoes wedi ymddeol yn gynnar neu adael dros y tair blynedd diwethaf.
Cyllid yn dynn
Bydd adroddiad i’r Cabinet yr wythnos nesaf yn dweud fod y Cyngor wedi cael gostyngiad gwerth £12m mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac yn wynebu gwerth £13m o bwysau gwario ychwanegol yn 2014/15.
Dywedodd y cyngor eu bod yn disgwyl toriadau pellach yng nghyllid y Llywodraeth yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Yn ôl y Cyngor mae’r rhaglen arbed arian sydd yn cael ei chynnig yn cynnwys “mwy o reolaeth dros wario, parhau i leihau costau rheoli a busnes, cynyddu incwm, gwneud pethau’n wahanol, gweithio gydag eraill, darparu mwy o wasanaethau ar-lein ac annog pobl i helpu eu hunain”.
Mae’r cynigion yn cynnwys blaenoriaeth i gyllidebau dirprwyedig ysgolion, gan gynyddu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ac annog ysgolion i gydweithio er mwyn lleihau costau.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydden nhw’n annog pobl hŷn i fyw’n annibynnol gartref yn hytrach na mynd i ofal preswyl, yn ogystal ag annog preswylwyr i wneud mwy i fynd i’r afael â phroblemau casglu gwastraff.
Dywedodd y Cyngor y bydden nhw hefyd yn parhau i hyrwyddo Abertawe fel Dinas Diwylliant Cymru – ar ôl iddyn nhw golli allan ar deitl Dinas Diwylliant Prydain 2014 i Hull yn ddiweddar.
“Rydym yn ymrwymedig i wella bywydau preswylwyr ac amddiffyn y gwasanaethau rheng flaen trwy fod yn flaengar a darparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol i leihau costau,” meddai’r Cynghorydd Stewart.
“Nid ydym wedi gwneud toriadau i wasanaethau anstatudol yn unig fel llawer o gynghorau eraill; rydym yn creu cyngor callach sy’n fwy effeithiol ac effeithlon.”
Mae Cabinet y cyngor yn cwrdd ar 10 Rhagfyr i drafod y cynigion. Os cânt eu cymeradwyo, bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno i’r broses ymgynghori.