George Osborne
Wrth gyflwyno Datganiad yr Hydref heddiw mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud bod “cynllun economaidd Prydain yn gweithio.”
Ond wrth iddo amlinellu cynlluniau ar gyfer ymestyn yr oedran ymddeol i filiynau o bobl fe rybuddiodd nad “yw’r gwaith ar ben eto”.
Dywedodd y bydd yn rhaid gwneud “rhagor o benderfyniadau anodd” a bod y dirwasgiad wedi bod yn llawer gwaeth nag oedden nhw wedi ei ofni.
Ond fe roddodd addewid y byddai’n rhoi cymorth i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.
O dan y cynlluniau ar gyfer pensiynau fe fydd pobl sydd yn eu 40au nawr ddim yn cael eu pensiwn gwladol nes eu bod yn 68, tra bod y rhai hynny sydd yn eu 30au yn gorfod aros nes eu bod yn 69.
Mae George Osborne hefyd wedi cyhoeddi toriadau pellach gwerth £3 biliwn i wariant Whitehall dros y tair blynedd nesaf, a hynny er gwaetha rhagolygon Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) sy’n dangos twf yn yr economi.
Yn ystod y bore mae’r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi y bydd cap ar wariant ar fudd-daliadau; cinio am ddim i blant ieuengaf mewn ysgolion yn Lloegr, sef un o addewidion y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg; help i fusnesau bach a dim cynnydd yn y dreth ar danwydd. Bydd mesurau hefyd i fynd i’r afael a thwyll ac osgoi talu trethi.
Ymateb TUC
Wrth ymateb i’r cynlluniau i godi oed pensiwn unwaith eto, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady nad oes tystiolaeth i ddangos fod pobol yn byw yn hirach, ers y tro diwethaf i’r oed pensiwn gael ei godi.
“Ond mae pobol ifanc heddiw yn cael eu gorfodi i weithio nes eu bod nhw wedi ymladd.”
“Mae annhegwch mawr ym mhensiwn y wlad fel y mae – mae disgwyl i ddynes o Corby dderbyn £67,000 yn llai na rhywun o dde Dorset oherwydd y bwlch mewn disgwyliad oes. Ac mae hyn yn debygol o waethygu wedi i’r cynlluniau gael eu cyhoeddi heddiw,” meddai Frances O’Grady.