Mae golwg360 yn deall bod staff sydd yn gweithio ym mhwll nofio Llandysul yng Ngheredigion wedi cael gwybod y bydd y ganolfan yn cau cyn y Nadolig.

Cafwyd cyfarfod o bwyllgor y pwll ddydd Mercher diwethaf, gyda llythyrau’n cael eu hanfon i staff yn dilyn hynny yn eu hysbysu o’r penderfyniad.

Bydd y pwll nofio’n debygol o fod wedi cau erbyn 21 Rhagfyr, gyda llond llaw o staff yn colli’u swyddi.

Mae’r penderfyniad yn dod wedi i gyllid gael ei dorri gan y Cyngor Sir, gan olygu y bydd pobl yr ardal yn gorfod teithio i Aberaeron neu Lanbedr Pont Steffan i fynd i nofio.

Yn ôl rhai sy’n defnyddio’r pwll mae’n annheg cymharu’r niferoedd sy’n defnyddio pwll Llandysul gyda  Llambed neu Aberaeron oherwydd y gwahaniaeth mewn poblogaeth.

Penderfyniad anochel

Dywedodd y Cynghorydd Peter Evans, sydd yn eistedd ar bwyllgor y pwll, fod y penderfyniad yn un siomedig o dan yr amgylchiadau ond fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y penderfyniad.

“Rydym ni’n hynod o drist o orfod cau’r pwll,” meddai Peter Evans wrth golwg360. “Ond does dim y niferoedd yn mynd drwy’r drws o gymharu â llefydd eraill.

“Mae ‘na broblemau i gael gyda’r pwll hefyd, o ran diogelwch yn ymwneud a’r adeilad ei hunan. Dyw’r pwyllgor ddim yn berchen ar y tir o dan y pwll felly dyw grantiau ddim yn bosib i’r pwll presennol.

“Rydyn ni’n cael llai a llai o arian o flwyddyn i flwyddyn, a mwy o doriadau i ddod. Mae pethau’n cael eu torri nôl i’r asgwrn yn yr hinsawdd bresennol.

“Roedd angen gwneud y penderfyniad yn weddol sydyn, er mwyn gallu talu i ddiswyddo’r staff, neu falle byddai’r arian wedi gorfod dod o boced yr ymddiriedolwyr.”

Pwll yn yr ysgol newydd?

Mae cynlluniau arfaethedig i godi ysgol newydd i blant 3-19 oed yn yr ardal erbyn 2016, ac fe ddywedodd Peter Evans fod hon wedi bod yn ffactor yn eu hystyriaeth hefyd.

“Roedden ni rhwng dwy stôl a dweud y gwir, gyda’r ysgol newydd yn dod yn 2016,” meddai.

“Dwi wedi gofyn i bwll nofio gael ei roi yn yr ysgol newydd, ond dy’ ni ddim yn gwybod eto os fydd e yn y cynlluniau.

“Mae’n bosib mai pwll i blant Cyfnod Allweddol Dau yn unig fydd e, er mwyn ateb gofynion statudol. ‘Dyn ni ddim yn siŵr eto os fydd ’na bwll ar gyfer yr holl ddisgyblion.”